Richard Davies Garnons Williams

Golygwyd gan : Person10 Wales at War / Cymru yn y Rhyfel 27/05/2016

Dyddiad geni: 15/6/1856

Man geni: Llowes, Maesyfed

Dyddiad marw: 25/9/1915

Lle bu farw: Loos-en-Gohelle, Ffrainc

Rhyw: Gwrywaidd

Lle claddwyd : Cofeb Loos

Cofebion:

Hay & Cusop
  • Dyddiad geni - 15/6/1856

    Ble ? - Llowes, Maesyfed

  • Dyddiad Ymrestrodd - 9/1914

    Ble ? - N/A

    Oedran - 58

    Fel - Gwirfoddolwr

  • Brwydrau

  • Dyddiad y frwydr - 25/9/1915

    Ble ? - Loos

  • Rhengoedd

  • Rheng Dyddiad - N/A

    Rheng - Fel Is-gyrnol

    Gwasanaeth - Y Fyddin Brydeining

    Fel -

    Rhif gwasanaeth - N/A

  • Rheng Dyddiad - 26/9/1914

    Rheng - Fel Uwchgapten

    Gwasanaeth - Y Fyddin Brydeining

    Fel -

    Rhif gwasanaeth - N/A

  • Rheng Dyddiad - 3/10/1914

    Rheng - Fel Is-gyrnol

    Gwasanaeth - Y Fyddin Brydeining

    Fel - South Wales Borderers

    Rhif gwasanaeth - N/A

  • Dyddiad marw - 25/9/1915

    Ble ? - Loos-en-Gohelle, Ffrainc


Teulu


  • Tad - Garnons Williams
  • Mam - Catherine Hort
  • Priod - Alice Bircham
  • Merch - Barbara Garnons Williams
  • Merch - Katherine Garnons Williams
  • Mab - Roger Garnons Williams


Cyfeiriad


  • Waunderwen, Y Gelli


Crefydd


  • Anglicaniaeth


Iaith/ieithoedd siaradwyd


  • Saesneg


Gwybodaeth bellach


Ganed Richard Davies Garnons Williams yn 1856 yn ail fab i’r Parchedig Garnons Williams o Abercamlais, Powys. Aeth i’r ysgol yn Ysgol Coleg Magdalen, Rhydychen, cyn mynychu Coleg y Drindod, Caergrawnt. Roedd Garnons Williams yn flaenwr rygbi’r undeb i dîm cenedlaethol Cymru a chwaraeodd i glybiau Aberhonddu a Chasnewydd, ynghyd â Phrifysgol Caergrawnt tra yn y coleg yno. Dim ond un gêm chwaraeodd i Gymru, sef y gêm ryngwladol rygbi’r undeb cyntaf Cymru yn 1881. Lloegr oedd y gwrthwynebwyr a gollodd Cymru’n drwm o 7 gôl, 1 gôl adlam a 6 cais i ddim. Mynychodd Garnons Williams Coleg Brenhinol Milwrol, Sandhurst, a gwblhaodd ei hyfforddiant swyddog yn 1876. Cafodd ei gomisiynu fel Is-gyrnol ar 26 Chwefror 1876 gyda’r 38ain Catrawd Troed (hwyrach y Ffiwsilwyr Brenhinol) ar 17 Chwefror 1877. Cafodd dyrchafiad yn Is-gapten ar 17 Ionawr 1877, ac yna yn Gapten erbyn Chwefror 1885. Ar 10 Ionawr 1887 cafodd ei apwyntio fel dirprwy ar 10 Ionawr 1887 o 4ydd Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol. Ymddeolodd o’r fyddin reolaidd ar 4 Mai 1892. Ar 8 Awst 1894 cafodd ei gomisiynu fel Uwchgapten ar Fataliwn 1af Gwirfoddol (Brycheiniog), Cyffinwyr De Cymru (uned wirfoddol), a’i apwyntio fel Uwchgapten Brigâd De Cymru o’r Llu Gwirfoddol yn 1895. Ar 12 Gorffennaf 1899 derbyniodd rheng anrhydeddus fel Is-gyrnol. Ymddiswyddodd ar 26 Mai 1906. Yn dilyn ei ymddeoliad, bu’n amlwg iawn ym mywyd cyhoeddus y sir ac yr oedd yn aelod o Fwrdd Gwarcheidwaid Aberhonddu, Cyngor Ardal Wledig Aberhonddu a Phwyllgor Clafdy Aberhonddu. Yr oedd hefyd yn Ynad Heddwch i’r sir a daeth yn ysgrifennydd ar Gynghrair Gwasanaeth Cenedlaethol canolbarth Cymru. Ail-ymunodd â’r Fyddin Brydeinig ar ôl dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf ac ymunodd ag 12fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol fel Uwchgapten ar 26 Medi 1914. Ar 3 Hydref 1914 cafodd ddyrchafiad fel Is-gyrnol dros dro a’i drosglwyddo i Fataliwn Brycheiniog Cyffinwyr De Cymru. Dychwelodd i’r 12fed gatrawd ond cafodd ei ladd ar 25 Medi (27 Medi mewn rhai ffynonellau) 1915 wrth arwain ei ddynion ym Mrwydr Loos. Ef oedd yr hynaf o 13 chwaraewr rhyngwladol Cymru i’w ladd yn ystod y rhyfel yn 59 mlwydd oed.