Dyma rhai canllawiau i helpu chi i wneud eich ymchwil ac ar sut i ddefnyddio'r wefan.
Sut i greu bywgraffiad
Mewngofnodwch gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a chyfrinair. Unwaith i chi fewngofnodi fe fyddwch yn gallu dechrau creu bywgraffiad.
1. Dewis cofeb
I greu bywgraffiad mae’n rhaid i chi yn gyntaf ddewis cofeb. Gall hyn fod y gofeb ryfel mwyaf lleol i’ch ysgol neu’n gofeb mae eich athro neu athrawes wedi dewis yn barod i chi weithio arni fel dosbarth.
Dewiswch y sir briodol ac yna’r gofeb o’r rhestrau dewis, neu dewiswch gofeb o’r map ar waelod y dudalen. Mae’n bosib na fydd pob cofeb wedi’u pinio ar y map felly cofiwch edrych yn y rhestrau hefyd.
Unwaith i chi ddewis y gofeb, byddwch yn gallu gweld wy o wybodaeth amdani. Yma, gallwch uwchlwytho unrhyw ffotograffau rydych wedi tynnu ohoni ac ychwanegu sylwadau am ei chyflwr.
Os nad yw eich cofeb yn ymddangos yn y rhestr, bydd eich athro neu athrawes yn gallu ei ychwanegu. Bydd eich athro neu athrawes hefyd yn gallu ychwanegu gwybodaeth i gofnod sydd eisoes yn y rhestr os nad yw’n gyflawn.
Nodyn: Mae’r siroedd yn y rhestr wedi’u henwi yn ôl eu henwau hanesyddol. Y rheswm am hyn yw achos dyma fel bydd y siroedd yn ymddangos yn y cofnodion byddwch yn eu defnyddio i ymchwilio’r bywgraffiadau.
2. Dewiswch enw
Y cam nesaf yw dewis enw sydd wedi’i restri ar eich cofeb. Cofiwch ddewis enw nad sydd wedi’i ddewis eisoes. Unwaith i chi wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Ychwanegu unigolyn’ i ddechrau gweithio ar y bywgraffiad. Bydd hyn yn agor ffurlen wag.
3. Creu bywgraffiad
Defnyddiwch y meysydd gwag ar y ffurflen i fewnbynnu’r holl wybodaeth yr ydych wedi darganfod drwy eich ymchwil.
Peidiwch a phoeni os nad ydych yn gallu cwblhau pob maes. Bydd unrhyw wybodaeth yr ydych yn gallu darparu yn ddefnyddiol. Yr unig meysydd angenrheidiol yw:
-
Enw cyntaf (llythyren gyntaf neu enw llawn)
-
Cyfenw
-
Cofeb(ion) – Y gofeb mae’r person wedi’i gofio ar. Gall hyn gynnwys mwy nac un gofeb.
-
Cyfeirnod Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad - Bydd hyn yn ymddwyn fel dynodwr unigryw ar gyfer eich person i sicrhau na fydd y bywgraffiad yn cael ei ddyblygu.
Os nad ydych yn cwblhau’r meysydd yma ni fyddwch yn gallu arbed na chyflwyno eich gwaith.
Nodyn: Sefydliad yw Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad sy’n edrych ar ôl beddau a chofebion ar draws y byd sy’n coffáu (neu’n cofio) dynion a menywod o’r Gymanwlad. Mae ei bas data yn cynnwys enwau y rheini bu fawr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a manylion o lle cawsant eu claddu/coffáu.
Ychwanegu gwybodaeth
Mae’r meysydd yn gyfuniad o restrau dewis (gyda sawl opsiwn i chi ddewis o), meysydd dyddiad a meysydd testun rhydd (ble allwch ychwanegu testun eich hunain). Maent wedi’u rhannu yn dair prif ran:
-
Gwybodaeth sylfaenol – Mae’r rhan yma yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol am y person: ei enw, dyddiad a man geni, a manylion am ei farwolaeth a’i man claddu. Os ydych wedi llwyddo chwilio’r person yng nghofnodion Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad, torrwch a phastiwch gyfeiriad gwe (neu URL) y dudalen i’r maes priodol.
-
Manylion personol – Yma gallwch ychwanegu gwybodaeth am fywyd y person cyn y rhyfel, gan gynnwys ble oeddynt yn byw, aelodau arall o’r teulu, lle oeddynt yn mynd i’r ysgol, beth oedd ei swydd, ac unrhyw wybodaeth bersonol arall megis yr ieithoedd oeddynt yn gallu siarad a’i daliadau crefyddol. Gellid defnyddio’r maes ‘Gwybodaeth bellach’ i ychwanegu unrhyw wybodaeth arall am y person nad ydych yn gallu rhoi unman arall. Gallai hyn gynnwys straeon neu ddisgrifiad mwy manwl am ei brofiadau/phrofiadau yn ystod y rhyfel.
-
Gwasanaeth milwrol – Gallwch ychwanegu manylion am rôl y person yn ystod y rhyfel yn y rhan yma, megis gwybodaeth ymrestri, ei rheng, unrhyw fedalau neu wobrwyon wnaeth y person dderbyn, ac unrhyw frwydrau iddynt brofi.
Mae yna hefyd ardal i chi gofnodi’r adnoddau a’r cofnodion defnyddiwyd i gasglu’r wybodaeth.
Ychwanegu delweddau
Gallwch hefyd uwchlwytho delweddau I’r bywgraffiad gan glicio ar y botwm ‘Rheoli lluniau’. Gallai’r delweddau yma fod yn luniau o’r person ei hun os ydych yn llwyddo chwilio rhai, neu ffotograffau o enw’r person ar y gofeb. Defnyddiwch y maes ‘Disgrifiad’ i gynnwys pennawd, manylion o le ddaeth y delwedd, ac unrhyw gwbodaeth hawlfraint angenrheidiol.
Fe allwch uwchlwytho mwy nac un delwedd i’r bywgraffiad. Cliciwch ar yr opsiwn ‘Prif ddelwedd’ er mwyn ei osod fel fân-lun y bywgraffiad.
4. Arbed y bywgraffiad
Cliciwch ar y botwm ‘Arbed’ i arbed unrhyw newidiadau yr ydych yn gwneud i’r bywgraffiad. Fe allwch ddychwelyd i’r bywgraffiad ar unrhyw adeg yn ystod eich ymchwil i newid neu ychwanegu gwybodaeth drwy glicio ar ‘Golygu bywgraffiad’ yn eich cyfrif.
5. Cyflwyno’r bywgraffiad
Unwaith yr ydych yn hapus gyda’r bywgraffiad ac yn teimlo eich bod wedi cwblhau gymaint o feysydd â phosib, gwasgwch y botwm ‘Cyflwyno’. Bydd eich athro neu athrawes wedyn yn gallu ei adolygu a’i gymeradwyo. Ni fyddwch yn gallu gwneud unrhyw newidiadau i’r bywgraffiad unwaith i chi ei gyflwyno oni bai bod eich athro neu athrawes yn ei ddychwelyd i chi i wneud newidiadau.
Unwaith i’ch bywgraffiad gael ei gymeradwyo, fe fydd eraill yn gallu ei weld a’i ddefnyddio o’r rhan ‘Bywgraffiadau’.
Rhestr Termau
Symud ymlaen
Milwyr yn gwthio ymlaen
Moddion Saethu
Enw ar gyfer holl fwledi a thanbelenni a daniwyd gan ddrylliau a magnelau.
Cadoediad
Cytundeb gan y ddwy ochr i atal y brwydro. Gall cadoediad bara cwpwl o ddyddiau neu llawer hirach.
Magnelau
Drylliau mwy sy’n tanio moddion saethu mwy ac yn aml yn cael eu symud ar olwynion yn hytrach na drwy law.
Llofruddiaeth
Lladd rhywun yn fwriadol.
Blocâd
Ffurfio rhwystr i atal rhywbeth rhag fynd trwodd. Gosododd y Llynges Frenhinol flocâd o’r Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i atal cyflenwadau rhyfel a bwyd rhag cyrraedd yr Almaen.
Tanbelennu / Peledu
Tanio llawer o fagnelau ar yr un pryd i achosi’r difrod mwyaf posib. Yn y Rhyfel Byd Cyntaf roedd tanbelenni yn aml yn digwydd cyn ymosodiadau mawr gan y milwyr.
Colledion
Pan ddefnyddir ar y safle hon, golyga “colledion” unrhyw un sy’n cael eu lladd, clwyfo neu eu dal mewn brwydr.
Gwrthwynebwr Cydwybodol
Pobl a wrthododd ymladd mewn rhyfeloedd oherwydd eu bod yn credu fod rhyfel yn anghywir.
Consgripsiwn
Gwasanaeth milwrol gorfodol.
Caethgyfle
Pan nad oes yr un ochr yn ennill neu’n colli. Dyma oedd y sefyllfa ar Ffrynt y Gorllewin am rhan fwyaf o’r rhyfel.
Amddiffynnol
Gweithredoedd a gymerir i amddiffyn eich hunain.
Ymosodol
Gweithredoedd a gymerir i ymosod ar y gelyn neu i wneud cynnydd.
Atgyfnerthion
Milwyr newydd yn cyrraedd y frwydr i helpu’r milwyr sy’n brwydro’n barod neu i gymryd lle milwyr blinedig.
Enciliad
Symud i ffwrdd o faes y gad i leoliad mwy diogel lle gallech amddiffyn eich hunain. Weithiau doedd dim dewis ond i gilio pan roedd pethau’n mynd yn wael, ond ar adegau eraill byddai penderfyniad yn cael ei wneud i gilio er mwyn sicrhau gwell safle.
Strategaeth
Y cynllun mawr ar gyfer y rhyfel, theatr penodol o’r rhyfel neu brwydr.
Tactegau
Y gweithredoedd a gymerir er mwyn cyflawni’r strategaeth.
Theatr Rhyfel
Rhan o’r byd lle mae’r rhyfel yn digwydd. Rhannir y Rhyfel Byd Cyntaf mewn i sawl theatr rhyfel megis Ffrynt y Gorllewin, y Dwyrain Canol a Rhyfel y Môr. Mae beth sy’n digwydd mewn un theatr yn aml yn effeithio ar theatrau eraill.
Ffos
Wedi eu palu gan filwyr i ddarparu lloches a safle amddiffynnol. Doedd hi ddim yn syniad newydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ond daeth y ffosydd i symboleiddio’r math o ymladd ar Ffrynt y Gorllewin.
U-Boat
Llong danfor. Deillia’r term o’r gair Almaenaidd am long danfor, Unterseeboot.
Wltimatwm
Hawlio rhywbeth i’w gael ei wneud erbyn amser penodol. Fel arfer gyda’r bygythiad o oblygiadau difrifol os nad oes rhywbeth yn cael ei wneud.
Zeppelin
Math o long awyr Almaenaidd. Balwn mawr wedi ei yrru gan beiriant ac arfogi gyda bomiau.