Hawlfraint a Phreifatrwydd
Hawlfraint
Drwy gyfrannu ar brosiect Cymru yn y Rhyfel, yr ydych yn cytuno i ryddhau’r data yr ydych yn cyfrannu o dan drwydded Creative Commons Zero.
Mae hyn yn golygu eich bod yn hepgor pob hawlfraint a hawliau perthynol sydd gennych dros y data rydych wedi ei gyfrannu. Bydd hyn yn hwyluso mynediad iddo ac ailddefnydd ohono yn y dyfodol.
Gwnewch yn siŵr bod gennych yr hawl i gyfrannu’r data i brosiect Cymru yn y Rhyfel, os gwelwch yn dda. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau nad yw eich data yn tramgwyddo hawliau unrhyw un arall.
Hysbysiad Preifatrwydd
Mae prosiect Cymru yn y Rhyfel yn casglu data amdanoch chi er mwyn cynnal y prosiect a’r wefan. Mae’r hysbysiad hwn yn disgrifio’r data rydym yn ei gasglu, sut y caiff ei ddefnyddio a sut y caiff ei gadw. Mae hefyd yn disgrifio sut y caiff defnydd o’r wefan ei fonitro.
Mae prosiect Cymru yn y Rhyfel yn parchu preifatrwydd yr unigolion sy’n cymryd rhan yn y prosiect a’r wefan ac yn gweithredu i warchod eu preifatrwydd yn unol â chyfreithiau ac anghenion cenedlaethol y DU ar gyfer preifatrwydd defnyddwyr.
Defnydd Cwcis
Mae’r wefan yma yn defnyddio cwcis er mwyn gwella profiad defnyddwyr sy’n ymweld â’r wefan. Darnau bychain o ddata yw cwcis a osodir ar gyfrifiaduron a dyfeisiau defnyddwyr i bwrpas hwylustod a mewngofnodi. Anogir defnyddwyr i gymryd y camau angenrheidiol o fewn gosodiadau diogelwch porwyr gwe eu hunain os ydynt yn dymuno rhwystro cwcis o’r wefan yma.
Mae prosiect Cymru yn y Rhyfel yn defnyddio Google Analytics i gasglu ystadegau ac i fonitro defnydd cyffredinol o’r wefan er mwyn gwneud gwelliannau i’n gwasanaethau. Mae’r meddalwedd yn rhoi cwci are eich cyfrifiadur/dyfais er mwyn monitro eich cyfraniad a’ch defnydd o’r wefan, ond ni fydd yn storio, arbed neu casglu gwybodaeth bersonol.
Data rydym yn ei gasglu a sut y caiff ei ddefnyddio
Wrth gofrestru fel defnyddiwr prosiect Cymru yn y Rhyfel, bydd gofyn i chi greu enw defnyddiwr a darparu cyfeiriad e-bost. Byddwch yn defnyddio'r rhain, ynghyd â chyfrinair, i gael mynediad i’ch cyfrif. Ni fydd defnyddwyr eraill yn gallu gweld neu gael mynediad at eich cyfeiriad e-bost, ond bydd llythrennau blaen eich enw yn cael ei ddangos ar y we mewn cysylltiad â’ch cyfraniadau i’r prosiect.
Bydd eich manylion personol yn cael eu cadw’n breifat a’n ddiogel hyd nes bydd amser lle na fydd eu hangen neu eu defnyddio eto yn unol â Deddf Gwarchod Data 1998. Gwneir pob ymdrech i sicrhau proses gofrestru diogel ond cynghorir defnyddwyr eu bod yn gwneud felly at risg eu hun.
Rhannu â thrydydd partïon
Bydd eich llythyrau blaen eich enw yn cael eu dangos ar y we mewn cysylltiad â’ch cyfraniadau i’r prosiect. Ni fyddwn yn rhyddhau eich cyfeiriad e-bost i drydydd parti oni bai ei bod yn angenrheidiol er mwyn parhau i roi mynediad i wefan prosiect Cymru yn y Rhyfel. Byddwn ond yn gwneud hyn dan amodau cytundeb a fydd yn gwarchod eich preifatrwydd.
Dolenni Allanol
Er bod y wefan yma ond yn edrych i gynnwys dolenni allanol diogel, perthnasol ag o safon, cynghorir i ddefnyddwyr gymryd gofal wrth glicio ar unrhyw ddolenni allanol sy’n cael eu crybwyll. Ni all perchnogion y wefan gwarantu cynnwys gwefannau/dolenni allanol er gwaethaf eu hymdrechion gorau.