Trydedd Frwydr Ypres

31ain Gorffennaf – 10fed Tachwedd

Y Cadfridog Haig yn lansio Trydedd Frwydr Ypres ym mis Gorffennaf 1917 i geisio torri Byddin yr Almaen.

Roedd y Cadfridog Haig wedi eisiau lansio ymosodiad newydd yn Fflandrys yng Ngwlad Belg ers 1916. Ond yn gyntaf rhoddwyd blaenoriaeth i ymosodiad y Somme ac yna perswadiwyd ef i ymosod yn Arras i roi cymorth i’r Ffrancod ym mis Ebrill 1917. Nawr roedd e’n benderfynol o ymosod o gwmpas Ypres.

Ei fwriad oedd diogelu arfordir Belg lle roedd gan yr Almaenwyr safleoedd llongau tanfor. Roedd e’n ymwybodol fod Prydain yn colli gormod o longau nwyddau i’r U-Boats felly byddai hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr. Roedd e hefyd yn gofidio am sefyllfa’r Cynghreiriaid, Ffrainc a Rwsia. Nid oedd y Ffrancod mewn unrhyw gyflwr i lansio ymosodiad ac roedd amheuon ynglŷn â’u gallu i wrthsefyll ymosodiadau’r Almaenwyr. Roedd Rwsia ar fin profi chwyldro ac roedd gofidion y byddent yn tynnu allan o’r rhyfel. Tase hynny’n digwydd, byddai’r holl Almaenwyr a oedd yn brwydro ar Ffrynt y Dwyrain yn cael eu symud i Ffrynt y Gorllewin. Roedd Haig eisiau gwneud ymosodiad mawr i geisio torri trwodd cyn i’r sefyllfa hynny ddigwydd.

Ymosodiad llwyddiannus ar Gefn Messines yn rhoi hyder i bawb.

Ymosododd y Prydeinwyr ar dir uchel ym mis Mehefin a fyddai’n gymorth yn y frwydr. Enw’r darn hyn o dir oedd Cefn Messines. Roedd yr ymosodiad yn llwyddiant a rhoddodd hyder i bawb ar gychwyn Trydedd Frwydr Ypres.

Y Groes Fictoria i’r Cymro Ivor Rees

Gwasanaethodd y Rhingyll Ivor Rees o Lanelli yng Nghyffinwyr De Cymru yn ystod Trydedd Frwydr Ypres. Enillodd y Groes Fictoria - medal anrhydedd uchaf Prydain ar gyfer dewrder ar faes y gad - am helpu cipio Cefn Pilkem, safle Almaenaidd yn Passchendaele.

Mae’r tywydd yn Ypres yn troi’r maes y gad mewn i gors fwdlyd, uffernol - a’i gwneud hi’n amhosibl ymladd.

Cychwynnwyd y prif ymosodiad yn Nhrydedd Frwydr Ypres ar 31 Gorffennaf, 1917. Roedd unedau o’r 38fed Adran Gymreig, a frwydrodd yn ddewr yng Nghoedwig Mametz blwyddyn yng nghynt, ar y llinell ffrynt unwaith eto. Wrth ochr y milwyr profiadol a frwydrodd yn y Somme oedd recriwtiaid newydd a gafwyd eu consgriptio yn gynnar yn 1917.

Roedd glaw trwm a thanbelenni’r magnelau wedi torri maes y gad Ypres lan fel taw dim ond mwd trwchus oedd yn bodoli. Suddodd tanciau, ceffylau a milwyr yn y gors hon gan hyd yn oed boddi rhai o’r milwyr. Gorfododd y tywydd i’r frwydr rhannu mewn i gymalau gwahanol, gan ei bod hi wedi bod yn rhy anodd i ymladd ar adegau. Wedi peth amser daeth ffocws y frwydr i ganolbwyntio ar bentref Passchendaele, ychydig tu allan i Ypres. Cipiodd y Prydeinwyr Passchendaele ym mis Tachwedd.

Yn Nhrydedd Frwydr Ypres, cafodd 310,000 o Brydeinwyr eu lladd, clwyfo neu eu dal yn garcharorion. Symudon nhw prin pum milltir. Ypres oedd yr olaf o’r ‘brwydrau dinistriol’. Brwydr ddinistriol oedd y broses o dreulio nerth y gelyn drwy achosi cymaint o golledion iddynt nes eu bod nhw’n ildio. Arweiniodd y math hwn o frwydr at golledion anferth ar y ddwy ochr.

Oeddech chi’n gwybod…

Y glaw yn Ypres yn 1917 oedd y trymaf mewn 30 mlynedd. Credai rhai mai’r nifer o danbelenni yn cael eu tanio trwy’r atmosffer oedd yn achosi cymaint o law.

Adnoddau Allanol

Sergeant Rees was given a hero’s welcome back home in Llanelli as is shown in September 1917’s issue of the Llanelli Star:

Milwr Almaenaidd yn oedi i fyfyrio ar dair mlynedd o rhyfela.

Mae’r ceffyl hwn, yn tynnu cart dŵr, wedi suddo yn mwd Ypres.

Milwyr a cheffylau yn gwneud eu ffordd trwy faes y gad Ypres, gan basio crater llawn dŵr a grëwyd pan ffrwydrodd y Cynghreiriaid ffrwydrad tir cyn yr ymosodiad ar Gefn Messines.