Arras

9fed Ebrill – 16eg Mai

Lluoedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn ymladd Brwydr Arras i gefnogi ymosodiad y Ffrancod.

Yn gynnar yn 1917 roedd gan y Cadfridog Nivelle, pennaeth Byddin y Ffrancod ar Ffrynt y Gorllewin, gynllun ar gyfer ymosodiad anferth yr oedd yn gobeithio byddai’n torri trwy linellau’r Almaenwyr a’u bwrw allan o’r rhyfel.

General Haig of the British Army agreed (after being persuaded by the new Prime Minister, lloyd George) that the British would launch an attack to support the French. Their attack would be near Arras in France.

Aeth ymosodiad y Prydeinwyr yn weddol dda – fe gipion nhw rhai safleoedd pwysig gan gynnwys Cefn Vimy, a gymerwyd mewn ymosodiad campus gan filwyr Canada. Ond roedd ymosodiad y Ffrancod mewn trafferth. Nid oeddent yn gwneud fawr o gynnydd, ac o fewn dyddiau i gychwyn yr ymosodiad digwyddodd miwtini – pallodd rhai o’r milwyr i ymladd. Gyda Byddin Ffrainc ar fin dymchwel, bu rhaid i Gadfridog Haig atal yr ymosodiad Prydeinig yn Arras ym mis Mai.

Milwr cynghreiriol mewn gwylfa wedi’i guddwisgo fel bonyn coeden.