Blocâd

Y Llynges Frenhinol yn atal llongau cludo rhag cyrraedd yr Almaen

Unwaith ddechreuodd y rhyfel, cychwynnodd Llynges Frenhinol Prydain blocâd o’r Almaen. Bu rhaid i unrhyw long a oedd yn teithio i’r Almaen gael ei harchwilio, a rhwystrwyd unrhywbeth ag ystyriwyd yn waharddedig rhag cyrraedd. Roedd y gwaharddiad yn cynnwys bwyd ac erbyn diwedd y rhyfel roedd pobl yr Almaen yn llwgi o ganlyniad i’r blocâd. O atal bwyd i bobl yr Almaen, roedd Prydain yn torri cyfreithiau rhyngwladol ac roedd gwledydd eraill, gan gynnwys yr Unol Daleithiau yn grac gyda hwn i ddechrau.

LlyngesBrenhinol1914 – Llynges Brenhinol Prydain oedd y llynges mwyaf pwerus yn y byd. Defnyddiodd Prydain hi i weithredu blocâd ar yr Almaen.