Ymgiliad

Mae’r milwyr sy’n brwydro yn Gallipoli yn ymgilio ac mae’r ymgyrch yn dod i ben.

Erbyn diwedd 1915 roedd hi’n amlwg nad oedd unrhyw obaith i dorri trwodd yn Gallipoli. Roedd y Twrciaid yn rhy gryf a’r amodau’n rhy anodd i’r Cynghreiriaid ennill y frwydr. Felly penderfynodd Byddin Prydain i ymgilio’r holl filwyr.

Cwblhawyd yr ymgiliad ym mis Ionawr 1916. Lladdwyd neu clwyfwyd tua 250,000 o filwyr y Cynghreiriaid yn ystod Ymgyrch Gallipoli. Prin iawn a gyflawnwyd gan yr ymdrechion.

Milwyr yn ymgilio o Gallipoli gyda magnel mawr.