Gallipoli

Ble ?

Mae Penrhyn Gallipoli wedi’i leoli yn Nhwrci. Mae’r Penrhyn yn edrych dros ddarn o ddŵr a elwir y Dardanelles, sy’n cysylltu Môr y Canoldir a Môr y Marmara. Mae Môr y Marmara bron wedi’i amgylchynu’n llwyr gan Dwrci ac mae prif ddinas y wlad, Istanbwl (Caer Gystennin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf) yn gorwedd i’r pen arall.

Pam ?

Erbyn diwedd 1914 roedd Ffrynt y Gorllewin wedi dod i stop. Roedd y Cynghreiriaid yn meddwl gallai ymosodiad ar y Dardanelles fod yn ffordd newydd o ymosod ar y Pwerau Canolog.

Pryd ?

Roedd milwyr o Brydain, Awstralia, Seland Newydd, India a Ffrainc ynghlwm â’r ymladd yn Gallipoli. Fe wnaethant ymladd yn erbyn milwyr o Dwrci wedi’u cynorthwyo gan swyddogion o’r Almaen.

Pwy ?

Dechreuodd ymgyrch Gallipoli yn Mawrth 1915 a daeth i ben pan bu’n raid i lluoedd y Cynghreiriaid ymadael â’r Penrhyn.

Felly ?

Trychineb oedd ymgyrch Gallipoli i Brydain. Collodd Winston Churchill ei le yn y llywodraeth o ganlyniad i’w cefnogaeth i’r cynllun. Collwyd miloedd o fywydau oherwydd yr ymgyrch ac nid oedd y Cynghreiriaid unrhyw agosach i oresgyn y Pwerau Canolog.

Gwelwch y frwydr yn datblygu yn ein map wedi’i animeiddio.