Y Ffrynt Gartref
Ble ?
Mae’r Ffrynt Cartref yn cyfeirio at effaith y rhyfel ar y gwledydd oedd yn brwydro ynddi, a’i phoblogaethau.
Pam ?
Achosodd y rhyfel newidiadau gwleidyddol a chymdeithasol arwyddocaol ym Mhrydain.
Felly ?
Newidiwyd Prydain yn fawr o ganlyniad i’r rhyfel. Lladdwyd cannoedd o filoedd o ddynion ifanc gan adael unman heb ei effeithio. Dychwelodd nifer o’r rhyfel gyda chreithiau seicolegol neu clwyfau corfforol.
Newidiwyd safle menywod mewn cymdeithas gan y rhyfel yn syfrdanol. Cymeron nhw swyddi a adawyd gan y dynion, gan weithio mewn ffatrïoedd, ffermydd neu mewn swyddi cefnogol yn y lluoedd arfog.