Morwyr Caergybi

Mae’r Llynges Frenhinol yn ymladd Brwydr Jutland yn erbyn Llynges yr Almaen. Mae’r Llynges Frenhinol yn colli mwy o longau ond yn llwyddo erlid yr Almaenwyr yn ôl i’w porthladdoedd.

Prydain oedd y pŵer morol mwyaf yn y byd. Cyn y rhyfel dechreuodd yr Almaen adeiladu llynges fawr yn llawn llongau pwerus a dyma oedd un o’r rhesymau pam roedd y berthynas rhwng Prydain a’r Almaen o dan straen.

Pan gychwynnodd y rhyfel, roedd yr Almaen yn gwybod y byddai hi’n dalcen caled ceisio trechu’r Llynges Frenhinol. Cynllunion nhw i ddenu rhan o’r Llynges Frenhinol drwy ddanfon rhai o’u llongau fel abwyd. Yna byddai gweddill llongau’r Almaenwyr yn cyrraedd i ymuno yn y frwydr. Roedd hyn yn swnio’n well na cheisio herio’r Llynges Frenhinol i gyd ar yr un pryd!

Roedd rhai i’r Almaen wneud rhywbeth ynglŷn â’r Llynges Frenhinol oherwydd roeddent wedi gosod blocâd ar yr Almaen gan rwystro nwyddau rhag eu cyrraedd. Roedd rhaid torri’r blocâd er mwyn i’r Almaen barhau i gynhyrchu'r hyn roeddent angen am y rhyfel.

I ddechrau roedd cynllun yr Almaenwyr i’w weld yn gweithio. Hwyliodd grŵp bach o longau’r Prydeinwyr allan i gwrdd â sgwadron yr Almaenaidd oedd yn gweithredu fel abwyd ym Môr y Gogledd. Suddodd yr Almaenwyr sawl llong Brydeinig ond sylwodd comander y Prydeinwyr, y Llyngesydd Beatty, ar fwy o longau’r Almaenwyr yn agosáu, a llwyddodd Beatty i osgoi cwympo mewn i’r fagl.

Yn hytrach, gosododd Beatty magl ei hun gan arwain yr Almaenwyr yn ôl at luoedd llawn y Llynges Frenhinol, o dan arweinyddiaeth y Llyngesydd Jellicoe.

Rhedodd y llongau Almaenaidd yn syth mewn i fagnelau’r Prydeinwyr a gorfodwyd nhw i gilio. Penderfynodd Jellicoe beidio â’i herlid - penderfyniad a gafodd ei feirniadu yn hwyrach.

Pan ddaeth y frwydr i ben hawliodd yr Almaenwyr eu bod nhw wedi ennill. Suddwyd mwy o longau’r Prydeinwyr ac achoswyd mwy o golledion iddynt. Fodd bynnag, y Llynges Frenhinol oedd o hyd y grym mwyaf nerthol ym Môr y Gogledd, roedd y blocâd o’r Almaen yn parhau, a ni cheisiodd llynges yr Almaen orfodi’r Prydeinwyr mewn i frwydr forol fawr eto.

Roedd y Llyngesydd Sir Hugh Evan-Thomas, Llanwrtyd Wells, Powys, yn swyddog yn Llynges Brenhinol Prydain a ymladdodd yn Jutland. Roedd yn dod o deulu o uchelwyr a oedd yn berchen Ystâd Llwynmadoc yng nghanolbarth Cymru yn ogystal â’r Gnoll yng Nghastell-nedd, de Cymru. Roedd yn rheoli’r 5ed Sgwadron Frwydr o’r Brif Lynges ym Mrwydr Jutland ac roedd yn ffrind i Frenin Siôr V.

Morwyr Caergybi

Ymysg y morwyr Cymreig a frwydrodd yn Jutland oedd nifer fawr o Gaergybi yng Ngogledd Cymru. Lladdwyd pum dyn o Gaergybi yn y frwydr, yn eu mysg y Morwr Wrth-gefn y Llynges Frenhinol, Richard Thomas a oedd yn 46 oed. Lladdwyd ef pan suddwyd HMS Queen Mary ynghyd a 1,266 o fywydau. Lladdwyd ei fab, Richard, yn 1915 yn 16 oed pan darodd y llong ysbyty Anglia ffrwydrad morol Almaenaidd.

Llong y Llynges Frenhinol HMS Indefatigable yn suddo ar ôl cael ei daro gan y llong Almaenaidd, Von de Tann yn Jutland.