Mesopotamia

Yn gynnar ym mis Chwefror 1916 roedd llu achub o dan y Cadfridog Aylmer o hyd yn ceisio cyrraedd byddin Cadfridog Townshend a oedd o dan warchae gan y Twrciaid yn Kut el Amara. Dechreuodd awyrennau ollwng parseli bwyd dros y ddinas ond roedd milwyr Townshend yn dechrau llwgu. Ar 29 Ebrill ildiodd Townshend. Daliwyd 13,000 o filwyr yn garcharorion gan y Twrciaid. O ganlyniad i glefyd ac esgeulustod bu farw mwy na 4,000 ohonynt yn ystod eu carchariad.

Rhoddwyd y swydd o arwain byddin i fyny’r Afon Tigris i Gadfridog Frederick Maude a gychwynnodd ym mis Rhagfyr 1916.

Milwyr Indiaidd o lu Mesopotamia y Cadfridog Townshend yn dilyn pedair mis o dan warchae yn Kut el Amara.