Chwyldro yn yr Almaen

Mae llywodraeth yr Almaen yn poeni fod chwyldro ar fin digwydd yn y wlad. Maen nhw’n gofyn am gadoediad gyda’r Cynghreiriaid.

Erbyn mis Hydref 1918 roedd blocâd y Llynges Frenhinol wedi llwgu poblogaeth yr Almaen. Roedd eu byddinoedd yn colli brwydr ar ôl brwydr ar Ffrynt y Gorllewin.

Ym mhorthladd Kiel, darganfu’r morwyr fod cadfridogion yr Almaen yn cynllunio’u hanfon nhw ar gyrch hunanladdol terfynol yn erbyn y Llynges Frenhinol. Gwrthryfelodd y morwyr - drwy wrthod dilyn gorchmynion - a chymeron nhw reolaeth o Kiel. Achosodd eu gweithredoedd nifer o brotestiadau ledled y wlad.

Roedd y llywodraeth yn poeni y bydd chwyldro yn digwydd, tebyg i’r un a ddigwyddodd yn Rwsia yn 1917. Felly gofynnon nhw’n gyflym i’r Cynghreiriaid am gadoediad.

Ar 9 Tachwedd ymddiswyddodd y Kaiser a’r diwrnod dilynol penderfynodd ffoi o’r wlad. Daeth yr Almaen yn weriniaeth - wedi ei rheoli gan lywodraeth heb frenhiniaeth - ac roedd y wlad bellach yn cael ei rhedeg gan y Democratiaid Sosialaidd, y blaid wleidyddol fwyaf. Fodd bynnag roedd y wlad o hyd mewn anrhefn ac roedd grwpiau asgell chwith ac asgell dde yn achosi trafferthion.

Karl Liebnecht yn siarad i dorf ym Merlin. Fe oedd arweinydd y Gynghrair Spartasistaidd – grŵp gwleidyddol asgell chwith oedd eisiau i’r Almaen dod a’r rhyfel i ben.