Ymosodiad y Gwanwyn

Yr Almaen yn cychwyn Ymosodiad y Gwanwyn, ymosodiad anferth er mwyn ennill y rhyfel cyn i’r Americanwyr gyrraedd.

Roedd y Cadfridog Almaenaidd, Erich Ludendorff wedi bod yn cynllunio delio ergyd dyngedfennol yn 1918. Roedd ef yn ymwybodol fod yr Americanwyr ar eu ffordd. Os nad oedd yn curo’r Prydeinwyr a’r Ffrancod cyn i’r Americanwyr gyrraedd, roedd yn gwybod y byddai dim digon o filwyr gan yr Almaen i atal y Cynghreiriaid.

Rhannwyd ei gynllun, a elwir yn Ymosodiad y Gwanwyn, mewn i sawl cymal gwahanol. Gwnaeth yr Almaenwyr gynnydd da ar bob achlysur gan symud ymlaen nifer o filltiroedd, ond llwyddodd y Cynghreiriaid i symud digon o atgyfnerthiadau ymlaen mewn da bryd i lenwi’r bylchau yn y llinellau a achoswyd gan yr ymosodiadau.

Erbyn mis Gorffennaf roedd yr Almaenwyr yn lansio’u pumed ymosodiad ond erbyn hyn roedd yr Americanwyr yn dechrau cyrraedd ar gyfradd o ryw 300,000 y mis. Roedd yr atgyfnerthion hyn yn allweddol i ganiatáu gwrthymosodiadau grymus. Roedd colledion yr Almaen yn cynyddu.

Mae Ymosodiad y Gwanwyn yn profi’n rhy gostus i’r Almaen o ran colledion. Yn y cyfamser mae milwyr Americanaidd yn llifo mewn i Ffrainc.

Yng nghanol mis Gorffennaf, lansiodd y Ffrancod, Prydeinwyr a’r Americanwyr wrthymosodiad a ddaeth i gael ei adnabod fel Ail Frwydr y Marne. Roeddent yn ymosod ar salient – darn o dir tenau oedd yn ymestyn mewn i diriogaeth y Cynghreiriaid a oedd wedi cael ei chipio yn ystod ymosodiadau’r Almaenwyr.

Nawr tro’r Cynghreiriaid oedd hi i ymosod.

Stormfilwyr Almaenaidd yn symud ymlaen yn barod am Ymosodiad y Gwanwyn.

Milwyr Ffrengig gyda magnel anferth morol wedi ei osod ar drên.

Milwr Almaenaidd yn ymddangos o’i safle cuddliw yn ystod Ail Frwydr y Marne.

Milwr Prydeinig wedi ei gymryd yn garcharor ar Ffrynt y Gorllewin.