Wltimatwm

Awstria - Hwngari yn anfon wltimatwm bygythiol i Serbia...

Anfonodd Awstria - Hwngari wltimatwm – rhestr o bethau oedd yn rhaid iddynt ei wneud – i Serbia . Roedd yn cynnwys caniatáu i Awstria - Hwngari gynnal ymchwiliad i lofruddiaeth yr Archddug .

Drwy wneud yr hyn roedd Awstria yn gofyn iddynt wneud, byddai Serbia’n edrych yn wan, a thramgwyddwyd Serbia gan naws yr wltimatwm . Ond rhybuddiwyd Serbia gan ei ffrindiau, Rwsia, Ffrainc a Phrydain am y goblygiadau os nad oeddent yn gwneud yr hyn roedd Awstria yn dymuno .

... ac yn datgan rhyfel.

Cytunodd Serbia i wneud bron popeth roedd Awstria yn dymuno, ond ar 28 Gorffennaf, cyhoeddodd Awstria - Hwngari rhyfel ar Serbia, a chefnogwyd hi gan yr Almaen .

Franz von Conrad Hötzendorf oedd yn gyfrifol am luoedd arfog Awstria - Hwngari . Cefnoga Hötzendorf y syniad o ymosod ar Serbia gan gredu ei fod yn bwysig i Ymerodraeth Awstria - Hwngari brofi ei fod yn dal i fod yn rym nerthol .