Ffrynt y Gorllewin

Ble ?

Mae Ffrynt y Gorllewin yn cyfeirio at y brwydro a ddigwyddodd yn Ffrainc a Gwlad Belg .

Pam ?

Roedd cynllun yr Almaenwyr – y Cynllun Schlieffen – yn galw am ymosodiad ar Ffrainc drwy Wlad Belg .

Pryd ?

Dechreuodd y brwydro ar Ffrynt y Gorllewin yn 1914 pan ymosododd yr Almaen ar Wlad Belg a Ffrainc . Parodd tan y cadoediad ym mis Tachwedd 1918.

Pwy ?

Pan rydyn yn sôn am y byddinoedd, rydyn fel arfer yn cyfeirio at yr Almaenwyr, Ffrancod, Prydeinwyr, Belgiaid, ac o 1917 ymlaen, yr Americanwyr . Ond roedd Byddin Prydain yn enwedig yn cynnwys nifer o genedlaetholdebau gwahanol o bedwar ban yr Ymerodraeth Brydeinig, gan gynnwys Awstraliaid, Canadiaid, Selandwyr Newydd ac Indiaid . Roedd Byddin Ffrainc hefyd yn cynnwys milwyr o’u trefedigaethau Affricanaidd .

Felly ?

Dinistriwyd Belg a rhannau o Ffrainc yn ofnadwy. Diflannodd pentrefi a threfi cyfan, wedi eu chwalu’n deilchion gan fagnelau anferth y ddwy ochr. Daeth miloedd o bobl yn ffoaduriaid. Cafodd hwn effaith mawr ar agwedd Ffrainc yn y trafodaethau heddwch ar ddiwedd y rhyfel – roeddent yn awyddus i gosbi’r Almaen am y difrod a achoswyd.

Ar ôl y rhyfel, rhannwyd Ymerodraeth Awstria-Hwngari mewn i wledydd annibynnol ac yng Nghytuniad Versailles collodd yr Almaen llawer o dir a bu rhaid iddi dalu iawndaliadau. Oherwydd y teimlad o gael ei bychanu, roedd hyn yn ffactor yn y gwleidyddiaeth radical a ymddangosodd yn yr Almaen dros y degawdau nesaf.

See the progress of the Western Front on our animated battle map