Menywod a’r Rhyfel

Pan ddechreuodd y rhyfel yn 1914 roedd rhai pobl yn meddwl y byddai hi drosodd erbyn y Nadolig. Ond yn fuan daeth hi’n glir y byddai’r rhyfel yn parhau am amser hir. Wrth i fwy a fwy o ddynion fynd i dramor i ymladd, roedd menywod Prydain eisiau gwneud mwy i helpu’r ymdrech rhyfel.

Yn 1915 aeth menywod Prydain ar orymdeithiau yn galw am newidiadau fel allen nhw wneud mwy. Ym mis Chwefror 1916 sefydlwyd Gwasanaeth Heddlu’r Menywod ac ym mis Mehefin pasiodd y llywodraeth Ddeddf Arfau Rhyfel. Roedd hyn yn rhan o’r cynllun i gael Prydain i gynhyrchu mwy o foddion saethu oherwydd y prinder ar Ffrynt y Gorllewin. Galwodd y Ddeddf am fwy o weithiwyr i’r ffatrïoedd arfau a cynigodd 46,000 o fenywod yn yr wythnos gyntaf. Daeth i menywod yma’n i gael eu galw’n ‘Munitionettes’.

Mae menywod Cymru yn gwneud eu cyfraniad, gan weithio mewn ffatrïoedd ac ar y tir yn ogystal â mynd dramor i helpu achos y Cynghreiriaid.

Yn 1915 ffurfiwyd Sefydliad y Merched (‘Women’s Institute’, WI) yn Ynys Môn i annog menywod i dyfu mwy o fwyd ac i gadw beth oedd ganddynt wrth i Brydain ddechrau poeni am brinder bwyd o ganlyniad i ymosodiadau llongau tanfor yr Almaen ar longau nwyddau.

Cyflogwyd menywod yn un o ffatrïoedd arfau mwyaf Cymru ym Mhen-bre lle roeddent yn cynhyrchu TNT a deinameit, a hefyd yn ffowndri Taylor & Son’s yn Llansawel lle roedd tanbelenni yn cael eu cynhyrchu. Fodd bynnag, daeth natur peryglus y swyddi hyn i’r amlwg ym mis Gorffennaf 1917 pan laddwyd pedwar gweithiwr o ganlyniad i ffrwydrad yn ffatri Pen-bre, gan gynnwys dwy ferch yn eu harddegau – Mildred Owen, 18, a Mary Watson, 19.

Aeth menywod Cymru dramor hefyd i geisio helpu achos y Cynghreiriaid.

Roedd Maisie Bowcott ac Elixabeth Wilkins yn nyrsys a aeth dramor i helpu trin milwyr clwyfedig y Cynghreiriaid. Gweithiodd Elizabeth Wilkins wrth ochr y nyrs enwog Edith Cavell, a chafodd ei dienyddio am ei rôl yn helpu mwy na 200 o garcharorion y Cynghreiriaid i ddianc o Wlad Belg dan yr Almaenwyr.