Ffilter
Dechrau'r rhyfel
1914
-
Llofruddiaeth yr Archddug - 28/6/1914
Franz Ferdinand yn cael ei lofruddio yn Sarajevo.
-
Yr Almaen yn ymosod ar Wlad Belg - 4/8/1914
Ymosodiad yn digwydd ar Wlad Belg, er iddi fod yn niwtral.
-
Prydain yn cyhoeddi rhyfel ar yr Almaen - 4/8/1914
Ar ôl addo i amddiffyn Gwlad Belg, mae Prydain yn mynd i rhyfel.
-
Suddo HMS Amphion - 6/8/1914
Llong gyntaf y Llynges Frenhinol yn cael ei suddo.
-
Brwydr Mons - 23/8/1914
Brwydr fawr cyntaf y rhyfel.
-
Brwydr Cyntaf y Marne - 6/9/1914
Ymosodiad yr Almaen ar Ffrainc yn cael ei hatal.
-
Cymro cyntaf y Rhyfel Byd Cyntaf yn ennill y Groes Fictoria - 14/9/1914
Is-gorporal William Fuller, a anwyd yn Nhalacharn, yn ennill y Groes Fictoria am weithred ddewr ym Mrwydr Aisne.
-
David Lloyd George a Byddin Gymreig - 19/9/1914
Lloyd George yn galw am fwy o filwyr o Gymru.
-
Cyffinwyr De Cymru yn Tsingtao - 10/1914
Siapan yn trefnu gwarchae o borthladd yr Almaenwyr
-
Brwydr Gyntaf Ypres - 19/10/1914
Mae’r ddwy ochr yn ymladd dros Ypres am y tro cyntaf.
-
Brwydr Coronel - 1/11/1914
Dinistriwyd dwy long ryfel y Llynges Frenhinol gan fflyd Almaenaidd ger Chile.
-
Y Llynges Frenhinol yn llwyddiannus yn Ynysoedd y Falkland - 8/12/1914
Trechodd y Llynges Frenhinol y fflyd Almaenaidd.
-
Cadoediad y Nadolig - 25/12/1914
Magnelau’n ddistaw ar ddydd Nadolig
1915
-
Rhyfela Ffos yn cael ei sefydlu - 1915
Mae byddinoedd yn palu ffosydd
-
Carcharorion rhyfel Almaenaidd yn dianc o wersyll yn Llansannan - 4/4/1915
Cannoedd o blismyn o ogledd Cymru yn ymuno â’r chwiliad am dri swyddog Almaenaidd ar ffo.
-
Nwy gwenwynol ac Ail Frwydr Ypres - 22/4/1915
Un o arfau newydd y rhyfel yn cael ei defnyddio am y tro cyntaf.
-
Ail Frwydr Ypres - 22/4/1915
Lluoedd yr Almaenwyr yn ymosod
-
Ymosodiad ar Gallipoli - 25/4/1915
Y Cynghreiriaid yn glanio ar lannau Twrci
-
William Charles Williams o Gas-gwent yn ennill y Groes Fictoria - 25/4/1915
Y morwr yn cael ei wobrwyo am ei ddewrder ar lannau Gallipoli ar ôl ei farwolaeth.
-
Y Lusitania yn cael ei suddo - 7/5/1915
Llong deithio yn cael ei suddo gan long danfor yr Almaenwyr.
-
Frederick Barter o Gaerdydd yn ennill y Groes Fictoria - 16/5/1915
Ffiwsilwr Brenhinol Cymreig yn cael ei gydnabod am ei ddewrder ym Mrwydr Festubert.
-
Argyfwng tanbelenni a’r Gweinidog Arfau - 25/5/1915
David Lloyd George yn gyfrifol am oruchwylio cyflenwad arfau rhyfel i’r ffrynt.
-
Deddf Arfau Rhyfel - 7/1915
Mae’r ddeddf yn cael effaith mawr ar y gweithlu ac ar bwysigrwydd rôl menywod.
-
Streic y Glowyr - 15/7/1915
Glowyr yn streicio dros dâl.
-
53fed Adran Gymreig yn glanio ym Mae Suvla - 9/8/1915
Mae’r Adran yn cael ei galw i Gallipoli i roi cymorth.
-
Agor cangen gyntaf Sefydliad y Merched ym Mhrydain yng Nghymru - 16/9/1915
Agor cangen Llanfairpwllgwyngyll Sefydliad y Merched.
-
Y Gwarchodlu Cymreig ym Mrwydr Loos - 25/9/1915
Lluoedd Prydain yn defnyddio nwy gwenwynig.
-
Ymgiliad y 53fed Adran Gymreig o Gallipoli
Ymgiliad y Cynghreiriaid o Gallipoli yn dechrau.
1916
-
Consgripsiwn yn cael ei gyflwyno ym Mhrydain - 24/1/1916
Mae gwasanaeth milwrol yn dod yn orfodol
-
Byddin Ffrainc yn ymladd am ei bywyd - 21/2/1916
Mae Byddin Ffrainc yn ymladd am ei bywyd
-
Cyffinwyr De Cymru yn Kut al Amara - 4/1916
Danfon Cyffinwyr De Cymru i helpu mewn ardal a elwir heddiw yn Irac.
-
Arestio Morgan Jones fel ‘conshi’ - 29/5/1916
Erlid gwrthwynebwyr cydwybodol am wrthod ymuno â’r fyddin
-
Brwydr Jutland - 31/5/1916
Brwydr forol fwyaf y rhyfel.
-
Ymosodiad y Somme - 1/7/1916
Mae ymosodiad anferth gan y Cynghreiriaid yn costi miloedd o fywydau.
-
Peilot o Gymru yn ennill y Groes Fictoria - 1/7/1916
Peilot o ogledd Cymru yn dianc awyrennau’r Almaenwyr.
-
Y 38ain Adran yng Nghoed Mametz - 7/7/1916
Y Cymry yn chwarae rôl bwysig yn yr ymosodiad hwn.
-
Christopher Williams a ‘The Welsh at Mametz Wood’ - 11/7/1916
Artist o Gymru yn dal erchyllterau Mametz.
-
Cyflwyniad y tanc - 15/9/1916
Meistr newydd ar y faes y gad
-
Gwobrwyo dyn o Sir Benfro gyda’r Groes Fictoria
‘Stokey’ Lewis yn ennill medal am ddewrder yn Salonika.
-
David Lloyd George yn dod yn Brif Weinidog - 5/12/1916
Y Cymro cyntaf yn cael ei benodi fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig.
1917
-
Y Chwyldro Rwsiaidd - 1917
Mae chwyldro yn gorfodi Rwsia i dynnu allan o’r rhyfel
-
Creu Byddin Tir y Merched - 1/1917
Annog marched i weithio ar y tir.
-
Yr Almaen yn cyhoeddi ail-ddechrau rhyfela llongau tanfor heb gyfyngiadau - 31/1/1917
Sawl cwch oddi ar arfordir Cymru yn cael eu suddo gan y gelyn.
-
Byddinoedd yr Almaen yn cilio i Linell Hindenburg - 21/2/1917
Lluoedd yr Almaen yn symud i safleoedd cryfach
-
Y 53fed Adran Gymreig ym Mrwydr Gyntaf Gaza - 26/3/1917
Colledion Cymreig yn y Dwyrain Canol
-
Amerig yn ymuno yn y rhyfel - 6/4/1917
Yr Arlywydd Wilson yn cyhoeddi rhyfel
-
Morwr o Gymru yn ennill y Groes Fictoria - 7/6/1917
Morwr o Sir Fôn yn ennill medal am ddewrder ar fwrdd HMS Pargust.
-
Lawrence o Arabia - 6/7/1917
Dylanwad dyn o Dremadog ar y Dwyrain Canol.
-
Trydedd Brwydr Ypres - 31/7/1917
Brwydro yn Ypres am y drydedd gwaith
-
Ffrwydrad yn ffatri ym Mhen-bre - 1/8/1917
Bywydau yn cael eu colli ar y ffrynt cartref.
-
‘Anfon y Nico i Landwr’ - 4/8/1917
Y bardd Cynan yn ysgrifennu ei gerdd ryfel cyntaf tra ar y ffrynt.
-
Eisteddfod y Gadair Ddu - 6/9/1917
Seremoni’r Gadeirio yn coffau marwolaeth Hedd Wyn.
-
Dyn o Geredigion yn ennill y Groes Fictoria - 4/10/1917
Dewrder Lewis Pugh Evans yn Passchendaele yn cael ei gydnabod.
-
Meddyg o Sir Fôn yn ennill y Groes Fictoria - 6/11/1917
Doctor o Sir Fôn yn marw ym Mhalesteina.
-
Cymro yn derbyn y Groes Fictoria ym Mrwydr Cambrai - 20/11/1917
Y Cynghreiriaid yn ymosod ar Linell Hindenburg.
-
Y Cadfridog Allenby yn cipio Jerwsalem - 11/12/1917
Jerwsalem yn cwympo erbyn y Nadolig
1918
-
Pleidlais i fenywod - 6/2/1918
Menywod dros 30 yn ennill yr hawl i bleidleisio.
-
Yr Almaen yn lansio Ymosodiad y Gwanwyn - 21/3/1918
Yr Almaen yn gwneud cynnig olaf i geisio ennill y rhyfel.
-
Creu’r Llu Awyr Brenhinol (RAF) - 1/4/1918
Y Corfflu Awyr Brenhinol a Gwasanaeth Awyr Brenhinol y Llynges yn uno.
-
Brwydr Amiens - 8/8/1918
Y Cynghreiriaid yn ennill buddugoliaeth gampus
-
Ymosodiad 100 Diwrnod - 20/8/1918
Mae’r Cynghreiriaid yn profi llwyddiant ar ôl llwyddiant
-
Y Groes Fictoria i ddyn o Sir y Fflint - 26/8/1918
Ffiwsilwr Brenhinol Cymru yn cael ei wobrwyo am ei ddewrder.
-
William Herbert Waring o’r Trallwng yn ennill y Groes Fictoria - 18/9/1918
Cymro yn derbyn y fedal ar ôl ei farwolaeth.
-
Anrhefn yn yr Almaen - 3/11/1918
Morwyr yr Almaen yn gwrthod ymladd
-
Jack Williams o Sir Fynwy yn ennill y Groes Fictoria
Cymro olaf y rhyfel yn derbyn y fedal.
-
Cadoediad - 11/11/1918
Mae’r rhyfel yn dod i ben
1919
-
Cytundeb Versailles - 1/1919
Llunio Cytundeb Versailles
-
Miwtini yn Aberdaugleddau - 19/1/1919
Miwtini ar fwrdd HMS Kilbride
-
Terfysgoedd Parc Cinmel
Milwyr o Ganada yn anhapus gyda’u amodau byw
-
Terfysg hiliol yng Nghasnewydd - 6/6/1919
Tensiynau hiliol yn dwyshau yn ne Cymru
-
Terfysg hiliol Caerdydd - 11/6/1919
Tri dyn yn marw yn y terfysg