Dyma HMS Caroline. Cafodd ei hadeiladu yn 1914 ac yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf bu'n ymladd ym Mrwydr Jutland ar 31 Mai-1 Mehefin 1916. Gwariodd gweddill y rhyfel yn cylchwylio'r moroedd a chafodd platfform ei adeiladu arni i lansio awyrennau Gwasanaeth Awyr Brenhinol y Llynges ac, o 1918 ymlaen, awyrennau’r Llu Awyr Brenhinol. Criwser ysgafn Dosbarth-C yw HMS Caroline a byddai wedi bod ganddi griw o tua 325 morwr. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafodd ei lleoli ym Melffast a'i defnyddio fel pencadlys gan y Llynges Frenhinol. Ar ôl y rhyfel cafodd ei defnyddio gan y Llynges Frenhinol Wrth Gefn ar gyfer hyfforddi. Dim ond tair o longau rhyfel y Llynges Frenhinol o'r Rhyfel Byd Cyntaf sy'n goroesi hyd heddiw ac mae HMS Caroline ar hyn o bryd yn cael ei hadnewyddu ym Melffast.
Darllenwch mwy am Frwydr Jutland a hanes y morwyr o Gaergybi.